TGAU daearyddiaeth

Gwaith Maes - PowerPoints

Mae’r casgliad hwn o chwe chyflwyniad PowerPoint yn canolbwyntio ar themâu poblogaidd mewn gwaith maes daearyddiaeth: afonydd, arfordiroedd, anheddiad trefol, anheddiad gwledig, microhinsawdd a thwristiaeth. Bwriad pob PowerPoint yw arwain myfyrwyr drwy’r chwe cham ymholi fel sy’n briodol i’r themâu daearyddol gwahanol. Mae’r cyflwyniadau PowerPoint yn cynnwys lluniau, mapiau a diagramau helaeth ac mae yna ddolenni i weld pytiau o fideos.